Wikimedia Foundation elections/Board elections/2009/Vote interface/cy

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki
Gorffennodd yr etholiad ar 10 Awst 2009. Ni fydd unrhyw bleidleisiau eraill yn cael eu derbyn.
Cyhoeddwyd canlyniadau'r etholiad ar 12 Awst 2009.
Ethol Bwrdd 2009
Trefniant

Title[edit]

Ethol Bwrdd 2009

Jump text[edit]

Fe gaiff y bleidlais hon ei chynnal ar weinyddion SPI. Pwyswch y botwm isod ac fe gewch eich trosglwyddo i weinydd y bleidlais.

Introduction[edit]

Croeso i etholiad 2009 ar gyfer Bwrdd Ymddiriedolwyr Wikimedia. Rydym yn cynnal etholiad i ethol tri person i gynrychioli cymuned defnyddwyr prosiectau Wikimedia. Bydd y cynrychiolydd yn cyfrannu at bennu dyfodol y gwahanol brosiectau Wikimedia, bob yn un ac un ac hefyd at ei gilydd; bydd hefyd yn siarad o'ch plaid chi'r defnyddwyr ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Byddant yn penderfynu ar ffyrdd i godi arian ac ar ddosraniad yr arian a godir.

Cyn pleidleisio darllenwch datganiadau'r ymgeiswyr a'u hatebion i gwestiynau'n ofalus. Mae pob un o'r ymgeiswyr yn ddefnyddiwr o barch, sydd wedi ymroi'n sylweddol at brosiectau Wikimedia, i'w gwneud yn groesawgar tra'n hybu amcan o gasglu gwybodaeth a'i rannu'n rhad.

Byddwch gystal â gosod yr ymgeiswyr yn y trefn y maent yn orau gennych trwy lanw rhif wrth y blwch (1 = yr ymgeisydd sydd orau gennych, 2 = yr ail orau, ...). Gallwch roi'r un rhif i fwy nag un ymgeisydd, a gallwch adael rhai ymgeiswyr heb rif ac felly heb fynegi barn arnynt. Rydym yn cymryd yn ganiataol bod yn well gennych yr ymgeiswyr sydd wedi derbyn rhif i'r rhai sydd heb rif ac nad oes yn well gennych un o'r ymgeiswyr heb rif na'i gilydd.

Bydd enillydd yr etholiad yn cael ei benderfynu trwy ddefnyddio dull Schultze. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau swyddogol yr etholiad.

Am ragor o wybodaeth, gweler: