Fundraising 2008/appeal/cy

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki

Apêl gan sefydlydd Wicipedia, Jimmy Wales[edit]

Jimmy Wales

Annwyl Ddarllenwr,

Heddiw rydw i'n mynd i ofyn i chi gefnogi Wicipedia drwy roi rhodd ariannol. Efallai fod hyn yn beth anarferol: pam fod un o bump safle gwe mwyaf poblogaidd y byd yn gofyn am gefnogaeth ariannol gan ei ddefnyddwyr?

Adeiladwyd Wicipedia mewn ffordd wahanol iawn i bron pob un arall o'r 50 gwefan mwya poblogaidd eraill. Dim ond nifer bychain o staff cyflogedig sydd gennym; dau-ddeg tri yn unig, i fod yn fanwl gywir. Mae Wicipedia yn rhydd i gael ei defnyddio gan unrhyw un - i unrhyw bwrpas, yn rhad ac am ddim. Cyfanswm ein treuliau blynyddol yw llai na chwe miliwn o ddoleri. Gweinyddir Wicipedia gan 'Sefydliad Wikimedia', sy'n gwbl ddi-elw ac a gafodd ei sefydlu gennyf yn 2003.

Craidd Wicipedia yw'r gymuned fyd-eang o fwy na 150,000 o wirfoddolwyr sydd wrthi'n ddyfal - pob un yn ymroddedig i rannu gwybodaeth i bawb am ddim. Dros bron i wyth mlynedd, mae'r gwirfoddolwyr hyn wedi sgwennu dros 11 miliwn o erthyglau mewn 265 o ieithoedd. Rydym yn cael mwy na 275 miliwn o ymwelwyr i'n gwefan pob mis i gyrchu gwybodaeth, yn rhad ac am ddim ac yn rhydd o hysbysebion.

Ond mae Wicipedia yn fwy na gwefan. Rydym yn rhannu achos cyffredin: Dychmyga fyd, ac ynddi mae pob un person sydd arno yn cael mynediad i holl wybodaeth dyn. Dyna ein ymrwymiad.

Mae eich rhodd yn ein cynorthwyo mewn sawl ffordd. Yn bwysicaf, mi fyddwch yn helpu ni i dalu'r gost uchel o reoli traffig byd-eang i un o'r gwefannau mwyaf poblogaidd ar y we. Gall cyllid hefyd helpu ni i wella'r meddalwedd sy'n rhedeg Wicipedia - meddalwedd sy'n ei gwneud hi'n haws i archwilio, yn haws i ddarllen, ac yn haws i ysgrifennu. Rydym yn ymroddedig i ddatblygu'r syniad o 'symudiad gwybodaeth rhydd' yn fyd-eang, trwy gael gwirfoddolwyr newydd, a chreu partneriaethau strategol agos gyda sefydliadau dysgu a diwylliant.

Mae Wicipedia yn wahanol. Y gwyddoniadur mwyaf yn ein hanes ni yw hwn, wedi ei ysgrifennu gan wirfoddolwyr. Fel parc cenedlaethol neu ysgol, nid ydym yn credu bod gan hysbysebion le ar Wicipedia. Hoffwn ei chadw yn rhydd ac yn gryf, ond mae angen cefnogaeth miloedd o bobl fel chi.

Mi rydw i'n eich gwahodd chi i ymuno â ni: mi fydd eich rhodd yn helpu i gadw Wicipedia yn rhydd ac am ddim i'r holl fyd.

Diolch,

Jimmy Wales

RHOI NAWR »

Rhagor o wybodaeth[edit]

Sitenotice[edit]

Munud i sbario? Darllenwch lythyr oddi wrth Jimmy Wales, Sylfaenydd Wicipedia


Rhagor o wybodaeth