Fundraising 2011/GW Letter/cy

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki
Translation instructions
  • For pages marked "Missing" or "In progress", click the page title and start translating. When you are done, click "edit status" and change the status to proofreading.
  • For pages marked "Needs updating", compare the page to the source page and update the translation accordingly. When you are done, click "edit status" and change the status to proofreading.
  • It is important to have someone else proofread the translated page! If you have proofread a page and it is ready for publication, click "edit status" and change that page's status to ready.
  • If you are changing something that has already been published, change its status back to ready for it to be published again.

If you have any questions or feedback regarding the translation process, please post them here. Translation FAQ

Myfyriwr y Brifysgol dwi. Gall llyfrau ar gyfer un tymor gostio hyd at £500. Ar Wicipedia, dwi'n gallu cael gwybodaeth sydd werth miloedd o lyfrau, yn rhad ac am ddim.

Dyna pam nad ydw i'n darllen Wicipedia yn unig, ond dwi'n helpu ei greu. Mae'n bwysig iawn imi sicrhau fod yr adnodd hwn ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Gyda 470 miliwn o ddarllenwyr y mis, mae Wicipedia yn bwysig i lawer o bobl ledled y byd.

Dylai Wicipedia wedi disgyn i ddarnau amser maith yn ôl. Consensws sydd yn ei yrru, sy'n wahanol i unrhyw brosiect cymunedol arall. Does dim gweinyddu cyffredinol go iawn, neu fwrdd gweithredol sy'n cymeradwyo bob golygiad a phob polisi. Yn lle hynny, mae cymuned fawr o wirfoddolwyr yn gweithio gyda'i gilydd i greu'r ffynhonnell o wybodaeth hon, sy'n rhydd i'w defnyddio ac sydd heb hysbysebion.

Drwy weithio tuag at y diben hwnnw, mae ein cymuned o filiynau o olygyddion yn gweithio gyda'i gilydd i greu gwyddoniaduron mewn 283 o ieithoedd, gan gynnwys cyfanswm o dros 20 miliwn o erthyglau.

Rydym yn gwneud hyn gyda chyllideb fach iawn o'i gymharu â gwefannau poblogaidd eraill. Er mwyn inni wneud ein gwaith, mae angen isadeiledd sefydlog arnom: gweinyddwyr, lled band, rhaglenwyr, a hyd yn oed cyfreithwyr i ddiogelu ein hannibyniaeth. Fe'i hariennir gan yr holl roddion gan ddarllenwyr Wicipedia. Efallai eich bod yn meddwl na fyddai'ch cyfraniad o ychydig o bunnoedd yn helpu digon, ond dyma'r hyn sy'n gadael i'r gweithrediad weithio.

Diolch o galon.