Fundraising 2012/Translation/Launch email

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki
This page is a translated version of the page Fundraising 2012/Translation/Launch email and the translation is 100% complete.
NOTE TO TRANSLATORS

This letter is a new translation request, but re-uses large parts of the 2012 Jimmy Appeal.

https://meta.wikimedia.org/wiki/Fundraising_2012/Translation/Jimmy_Appeal

If the 2012 Jimmy Letter has been translated into your language, you can probably re-use much of it for this translation. :-)


Launch email (millions)

Annwyl firstname,

Bu eich rhodd yn cynnal Wicipedia yn 2012; helpwch ni gynnal y fflam am flwyddyn arall drwy gyfrannu eto heddiw.

Mae cyfraniad bychan yn gallu gwneud gwaith mawr ar Wicipedia. Efallai fod gan Google yn agos i filiwn o weinyddion. Mae gan Yahoo tua 12,000 o staff. Mae gennym ni tua 800 o weinyddion a thua 150 aelod o staff. Rydym wedi gweithio'n galed ar hyd y blynyddoedd i leihau gwastraff a chadw pethau'n dynn. Rydym yn gwireddu'n nod, gan adael y gwastraff i bobl eraill.

Wicipedia yw'r pumed wefan fwyaf prysur ar y we ac mae'n gwasanaethu 450 miliwn o bobl wahanol bob mis - gyda biliynau o ymweliadau â thudalennau.

Mae masnach yn ddigon derbyniol. Nid yw hysbysebu yn beth drwg. Ond nid oes lle iddo yma. Nid ar Wicipedia.

Mae Wicipedia'n rhywbeth arbennig: mae'n debyg i lyfrgell neu barc cyhoeddus. Mae'n debyg i deml y meddwl. Rydym i gyd yn rhydd i gael lle yno i ystyried, i ddysgu, ac i rannu'n gwybodaeth ag eraill.

Pan sefydlais i Wicipedia, gallwn fod wedi creu cwmni a fyddai'n gwneud elw trwy faneri hysbysebu, ond penderfynais droedio llwybr gwahanol.

Pe bai pawb sy'n darllen yr e-bost hwn yn cyfrannu yr un faint ag a wnaethant y tro cyntaf, byddem wedi cyrraedd ein nod codi arian. Ond nid pawb sy'n gallu cyfrannu neu'n fodlon gwneud. Ac mae hynny'n iawn. Bob blwyddyn, mae digon o bobl yn penderfynu cyfrannu.

Eleni, a fyddech gystal ag ystyried gwneud cyfraniad o £5, £20, £50 neu beth bynnag y medrwch ei fforddio er mwyn amddiffyn a chynnal Wicipedia.

Diolch,

Jimmy Wales
Sefydlydd Wicipedia

Launch email (thousands)

Annwyl $firstname,

Bu eich rhodd yn cynnal Wicipedia yn 2012; helpwch ni gynnal y fflam am flwyddyn arall drwy gyfrannu eto heddiw.

Mae cyfraniad bychan yn gallu gwneud gwaith mawr ar Wicipedia. Mae gan Google a Yahoo filoedd o staff a gweinyddion. Mae'r rhyw 800 o weinyddion a 150 o staff sydd gennym ni yn ddigon. Rydym wedi gweithio'n galed ar hyd y blynyddoedd i leihau gwastraff a chadw pethau'n dynn. Rydym yn gwireddu'n nod, gan adael y gwastraff i bobl eraill.

Wicipedia yw'r pumed wefan fwyaf prysur ar y we ac mae'n gwasanaethu 450 miliwn o bobl wahanol bob mis - gyda biliynau o ymweliadau â thudalennau.

Mae masnach yn ddigon derbyniol. Nid yw hysbysebu yn beth drwg. Ond nid oes lle iddo yma. Nid ar Wicipedia.

Mae Wicipedia'n rhywbeth arbennig: mae'n debyg i lyfrgell neu barc cyhoeddus. Mae'n debyg i deml y meddwl. Rydym i gyd yn rhydd i gael lle yno i ystyried, i ddysgu, ac i rannu'n gwybodaeth ag eraill.

Pan sefydlais i Wicipedia, gallwn fod wedi creu cwmni a fyddai'n gwneud elw trwy faneri hysbysebu, ond penderfynais droedio llwybr gwahanol.

Pe bai pawb sy'n darllen yr e-bost hwn yn cyfrannu yr un faint ag a wnaethant y tro cyntaf, byddem wedi cyrraedd ein nod codi arian. Ond nid pawb sy'n gallu cyfrannu neu'n fodlon gwneud. Ac mae hynny'n iawn. Bob blwyddyn, mae digon o bobl yn penderfynu cyfrannu.

Eleni, a fyddech gystal ag ystyried [$1 gwneud cyfraniad o £5, £20, £50] neu beth bynnag y medrwch ei fforddio er mwyn amddiffyn a chynnal Wicipedia.

Diolch,

Jimmy Wales
Sefydlydd Wicipedia