Jump to content

Meetup/Cardiff/5/cy

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki
Wikimedia Meetups +/-
Upcoming (calendar)
Portland, Oregon 13 June
San Diego 135 13 June
London 229 14 June
Brighton 8 27 June
Edinburgh 28 27 June
San Diego 136 18 July
Wikimania Paris 21–25 July
Brixton 17 27 July
San Diego 137 Wiknic 1 August
San Diego 138 edit-a-thon 2 August
Riverside 4 19 September
Recent
Oxford 122 17 May
London 228 10 May
San Diego 134 10 May
Portland, Oregon 2 May
Brixton 16 27 April
Edinburgh 27 25 April
Bangkok 5 22 April
San Diego 133 11 April
Chiang Mai 1 21 March
Brixton 15 30 March
Edinburgh 26 28 February
Exeter 5 24 January
Cardiff 6 22 January
Brighton 7 29 November
Regular
List of regular meetups
Archives
London · Hong Kong

Cymraeg · English

Cyfarfod Wikimedia Caerdydd Rhif 5

[edit]

Dydd Iau 6ed Tachwedd 2025 6pm i 8pm

[edit]

Lleoiliad: Bru Coffee (Heol y Frenhines), 105 - 107 Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 2BG

Mae WiFi ar gael yn y lleoliad #cdfwiki

(ymunwch unrhyw bryd y gallwch, does dim angen aros ar gyfer y digwyddiad cyfan)

Beth yw'r Wicigwrdd hwn?

[edit]

Mae cryn amser ers y cyfarfod diwethaf yng Nghaerdydd, felly mae hwn yn ddigwyddiad cymdeithasol anffurfiol i bobl yng Nghaerdydd a'r cyffiniau gwrdd â phobl eraill sydd â diddordeb yn y Wicipedia.

Dros baned a byrbrydau (dewisol) gallwn ddod i adnabod ein gilydd ychydig, siarad am y gwahanol brosiectau rydym yn gweithio arnynt (neu hoffem gymryd rhan ynddynt), gofyn am rywfaint o wybodaeth neu gyngor ar rywbeth neu siarad am ba fath o weithgareddau Wici wyneb yn wyneb y byddem yn eu hoffi yng Nghaerdydd.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn?

[edit]

Gallwch ddisgwyl cwrdd â Wicipediwyr brwd iawn, ond mae hwn hefyd yn wahoddiad agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am Wicipedia a'i chwaer brosiectau (naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg).

Ydy hwn yn ddigwyddiad Cymraeg neu Saesneg?

[edit]

Y ddau! Y naill! Os hoffech siarad Cymraeg, mae'r trefnwyr Gemma a Rhys ill dau yn ddwyieithog ac yn hapus i sgwrsio â chi naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg. Fodd bynnag, pa bynnag iaith/ieithoedd rydych yn golygu Wici ynddi (neu hoffech olygu ynddynt), cewch groeso cynnes a byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich cynnwys.

Dod o hyd i ni

[edit]

Mae gan Bru Coffee ddau leoliad yng Nghaerdydd ac mae'r un hwn ar Heol y Frenhines.

Os ydych chi'n teithio ar y trên, mae'n daith gerdded fer (0.2 milltir) o orsaf Heol y Frenhines ac yn bellter tebyg o safleoedd bysiau Dumfries Place a Churchill Way.

Edrychwch allan am fwrdd gyda deunyddiau Wicipedia! Efallai y byddwn tuag at y cefn mewn ystafell dawelach. Os ydych yn bryderus, anfonwch neges at User:Gemma Coleman (WMUK) a gallaf roi fy rhif ffôn symudol i chi i'ch helpu i ddod o hyd i ni ar y noson.

Mynychu

[edit]

Llofnodwch isod os ydych yn bwriadu dod. Os ydych am gael eich atgoffa yn nes at yr amser, gadewch nodyn ar ôl eich llofnod.

  • Ychwanegwch eich enw yma
Cofrestriadau wedi'u copïo o'r dudalen Saesneg
[edit]

Mae diddordeb gyda fi, ond alla i ddim dod y tro hwn

[edit]

Llofnodwch isod os na allwch ddod y tro hwn ond byddai gennych ddiddordeb mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. *

  • Ychwanegwch eich enw yma
Negeseuon wedi'u copïo o'r dudalen Saesneg
[edit]
Advertised on X: https://x.com/WiciCymru/status/1986033508918190174
Llywelyn2000 (talk) 11:25, 5 November 2025 (UTC)[reply]