Wikimedia Community User Group Wales/23102018

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki

Grwp Defnyddwyr Wicimedia Cymru, 23 Hydref 2018

Lleoliad: Stiwdio 12, Llangefni, Ynys Môn
Amser: 11:00-15:00

Yn mynychu:

  • Aaron Morris
  • Robin Owain
  • Dafydd Tudur
  • Gareth Heulfryn
  • Iestyn Jones - disgybl blwyddyn 13 YGLL
  • Becca Gruffydd - disgybl blwyddyn 13 YDH
  • Duncan Brown
  • Richard Owen
  • Nia Thomas (Prif Swyddog Menter Iaith)

Ymddiheuriadau:


Croeso[edit]

Croesawyd pawb i'r cyfarfod ac wrth gyflwyno ei hunain, cafwyd crynodeb o brosiectau a meysydd gweithgaredd pawb oedd yn bresennol.

Cafodd cofnodion y cyfarfod blaenorol eu derbyn heb newidiadau.

Logos[edit]

Rhoddwyd sylw i'r ddau logo isod:

1.
2.

Cafodd y logos eu derbyn gyda'r ddealltwriaeth y byddai steil y llythyren 'c' yn y Wicimedia Cymraeg yn cael ei gysoni a bod lliw y geiriau 'Cymru' a 'Wales' yn cael ei newid i goch.

Trafodaethau gyda Wikimedia UK[edit]

Cafwyd adroddiad o'r drafodaeth gyda Wikimedia UK. Roedd y Grwp yn fodlon i ystadegau barhau i gael eu rhannu a'u cofnodi gan Wikimedia UK. Mewn ymateb i'r cynnig caredig o gefnogaeth gan Wikimedia UK i'r Grwp, nodwyd cyfieithu'r cofnodion i Saesneg a chyllideb i dalu costau sylfaenol y Grwp (lleoliadau ar gyfer cyfarfodydd, ayb) fel dwy ffordd y gallai roi'r gefnogaeth honno.

Cyfansoddiad y Grwp[edit]

Nid oedd cynnydd wedi bod gyda'r dasg o lunio cyfansoddiad i'r Grwp.

Cynigiodd Nia rannu dogfen safonol yr oedd wedi'i defnyddio yn y gorffennol er mwyn ffurfioli gweithgareddau o'r math hwn. Bydd rhain yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf.

Gweithgareddau perthnasol i'r Grwp[edit]

  • Wici Môn a gweithgareddau addysg

Rhoddodd Aaron ddiweddariad ar y gwaith rhagorol sy'n cael ei gyflawni gan Wici Môn. Trafododd hefyd y modd y mae gweithgareddau Wici yn berthnasol iawn i'r Fframwaith Cymhwysiant Digidol newydd. Mae'r gweithgareddau yn mynd i fod yn ymestyn y tu hwnt i Fôn yn y misoedd nesaf.

Mae ymchwil hefyd wedi'i wneud i weld faint o ddiddordeb fyddai mewn sefydlu Wicipedia Cymraeg i blant ar fodel Gwlad y Basg. Roedd 15 o ysgolion cynradd wedi ymateb yn gadarnhaol i'r syniad. Codwyd y cwestiwn ai adnodd i blant fyddai'r Wicipedia yn bennaf, neu ofod a fyddai'n cyflwyno'r proses o greu a golygu iddynt a thrwy hynny ddysgu sgiliau llythrennedd gwybodaeth a digidol. Er mor gadarnhaol yw'r diddordeb mewn sefydlu Wicipedia i Blant, mae peth pryder hefyd am ddargyfeirio amser y rhai sydd ar hyn o bryd yn golygu Wicipedia.

Nodwyd y byddai'r gynhadledd addysg yng Ngwlad y Basg ym mis Ebrill 2019 yn gyfle da i ddysgu am y model Basgaidd, a rhannu a thrafod syniadau a chwestiynau perthnasol.

  • Diweddariad prosiect WiciGwerin, 'WiciBach' i ysgolion cynradd + diweddariad gwaith Bagloriaeth Cymru

Mae 21 o ddisgyblion wedi dangos diddordeb mewn cynnal gweithgaredd Wici fel rhan o'r Bac Cymreig.

  • Prosiect Pobl Cymru

Rhannwyd dros 4,800 o ddelweddau o Gasgliad Portreadau'r Llyfrgell Genedlaethol ar Comin.

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi gwneud cais am arian grant i gydweithio gyda Wici Môn i gynnal gweithgareddau mewn ysgolion a hacathon yn seiliedig ar y casgliad y hwn.

  • Wici365

Unrhyw fater arall[edit]

Cyfarfod nesaf[edit]

I'w drefnu yn y flwyddyn newydd.

Dolenni defnyddiol[edit]