Wikimedia Community User Group Wales/27032019

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki

Grwp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru, 27 Mawrth 2019

Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Amser: 11:00-15:00

Yn mynychu:

Ymddiheuriadau:

  • Eleri James (Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg)
  • Cynrychiolydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
  • Dafydd Tudur

Cofnodion[edit]

Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi[edit]

Angen dal nôl ar ddewis logo oherwydd trafodaeth ryngwladol i symid i ffwrdd o ddefnyddio’r gaer Wikimedia a defnyddio Wicipedia yn eu lle. (Robin)

Gweithgareddau perthnasol i'r Grwp[edit]

  • Wici Môn a gweithgareddau addysg (AM)

Nifer o ysgolion yn sefydlu clwb Wicipedia - Her Bagloriaeth yn parhau efo un ysgol yn targedu athrawon, ac un arall yn cydweithio (pontio) efo ysgolion Cynradd. Rhan fwyaf o'r ysgolion yn targedu disgyblion.

Wedi cyhoeddi fideo newydd am ddefnyddio Wici i ddysgu plant ysgol Gynradd.

Sôn am hyfforddi staff Mentrau iaith o amgylch Cymru er mwyn iddyn nhw hefyd gweithio efo ysgolion lleol.

Gweithio mwy efo targedu pynciau STEM - Sawl un wedi codi’r angen am air Cymraeg am STEM a STEAM

Prosiect i hyfforddi athrawon newydd am ddefnyddio Wicipedia yn y dosbarth.

  • Cynhadledd Addysg Donostia (RO)

Robin yn adrodd hanes gweithgareddau addysg yng Nghymru gan gynnwys gweithio efo Prifysgol Abertawe, Coleg Cymraeg, Cynhadledd Addysg yng Nghaerdydd, Wici Môn, Hwb ayyb.

Wedi nodi pwysigrwydd ymchwil Richard Nevell i mewn i ddefnydd y Wicipedia Cymraeg wrth i ni flaenoriaethu gwaith/prosiectau yn y dyfodol.

Pwysigrwydd cydweithio efo prifysgol Bangor a’r llwyddiant o gael mynediad agored i destun y gyfrol Cydymaith i Gerddoriaeth Cymraeg.

Papur newydd “Baner newydd” ar gael nawr ar drwydded cc-by-sa.

  • WiciPobl (JE)

Jason wedi adrodd ar ganlyniadau r prosiect, wedi nodi'r teimlad gan rhai yn y gymuned bod angen bod yn ofalus efo cyhoeddi llwyth o erthyglau BOT. Trafodaeth wedi dilyn ynglŷn â defnyddio data i gyfoethogi erthyglau crëwyd ar law a hefyd o gyhoeddi erthyglau bot mewn sypiau bach er mwyn rhoi cyfle i bobol cyfoethogi ar law.

Cyhoeddi newyddion am grant i greu llinell amser Wikidata ar gyfer y Bywgraffiadur Cymraeg sydd yn cysylltu efo Wikipedia a Wikidata yn Gymraeg a Saesneg.

Carl Morris yn trafod lansiad y prosiect yn y Gymraeg. Elena wedi codi cwestiwn am yr enw - a oes angen cadw at gyfieithiad o’r Saesneg? Bosib bod enw arall yn disgrifio'r prosiect a’r nod yn well - yn enwedig i bobol sydd yn newydd i’r byd Wici.

Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i annog mwy i gyfrannu.

Beti a’i phobl - posibiliad o gael mynediad agored i’r cynnwys y rhaglen yna er mwyn helpu i greu cynnwys newydd ar Wicipedia (Robin sydd mewn cysylltiad efo’r BBC am hyn)

  • Enwau Lleoedd a mapiau Cymraeg Mapio.Cymru - posibiliadau a chyfleoedd (Pawb)

Yn edrych i’r gymuned Wici am ymarfer da ar ran ymgysylltu cymunedol. Wedi bod yn trefni weithgareddau cymunedol i ychwanegu gwybodaeth leol trwy OSM. Trafodaeth am sut i gydweithio mwy agos.

Robin wedi sôn am y defnydd o Fap i Gymru ar y Wikipedia Cymraeg, mewn gwybodlennu.

Jason wedi crybwyll defnyddio Wikidata fel hwb canolog i wahanol Gazetteers, gan gynnwys Map i Gymru - fel ffordd o gydweithio a rhannu data cyfoethog am enwau Cymru bresennol a hanesyddol.

  • Cwlwm Celtaidd 2019 (Pawb)

Jason wedi rhannu’r diweddariad ynglŷn ar gynhadledd blwyddyn yma, sydd yn digwydd yn Gernyw gyda chroeso mawr i bawb cyflwyno syniadau am sesiynau. Y grŵp wedi cytuno bod ‘Galw am bapurau’ yn derm rhu ffurfiol. Jason i fwydo hwn yn ôl i’r trefnwyr

  • Wici365 - hyrwyddo (JE)

Trafodaeth am sut i symud hyn ymlaen. Sawl sylw defnyddiol gan gynnwys:

    • Targedu grwpiau gwybodaeth arbennig
    • Cyflogi ‘Champiwn Wici’ i ysbrydoli pobl i gyfrannu
    • Cwrdd efo grwpiau gwahanol er mwyn sôn am y rhesymau da dros gyfrannu i Wicipedia.
    • Rhagor o hyrwyddo trwy’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Llenyddiaeth Cymru (JE)

Jason yn adrodd ar y cais am Grant er mwyn rhedeg prosiect Llenyddiaeth Cymru gyda’r bwriad o rannu data am Lyfryddiaeth Cymru, cydweithio ar ddigwyddiadau mewn ysgolion efo Aaron Morris, Rhannu data am gasgliad Llawysgrifau Peniarth, efo delweddau, a chreu adroddiadau ar Impact a hefyd ar ymarfer da ar gyfer gweithgareddau Wiki yn ysgolion.

  • Bro 360

Trafodaeth byr am y cyfleoedd i cydweithio efo'r prosiect yma er mwyn cyrraedd cymunedau newydd.

  • Hacio'r Iaith 2019 a 2020 (RO)

Robin wedi crybwyll cael elfen Wici yn Hacio’r Iaith blwyddyn nesaf, gyda digwyddiad dros 2 diwrnod yn lle un. Jason wedi awgrymi’r LLGC fel lleoliad.

  • Cynllyn Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y Wicipedia Cymraeg (GM)

Gareth Morlais yn cyflwyno’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru newydd. Bydd y cynllun am ganolbwyntio ar leferydd i destun, dysgu peirianyddol a chefnogi’r Wicipedia Cymraeg. Hefyd roedd sôn am yr ymrwymiad i roi mynediad agored i gynnwys sy’n cael i ariannu gan uned technoleg a’r Gymraeg.

  • Oblygiadau a photensial trefniant Llyfrgell Genedlaethol i warchod archifau S4C a BBC Cymru Wales (GM)

Trafodaeth am sut allwn ni cydweithio yn agosach efo BBC Cymru er mwyn gwneud defnydd o ddata a gwybodaeth ar Wicipedia. Roedd sgwrs am annog staff BBC Cymru i gyfrannu yn uniongyrchol i Wicipedia, a thrafodaeth am y cyfleodd os daw’r archif i’r llyfrgell - efo nifer o eitemau o dan hawlfraint y BBC yn unig, megis data, gwaith ymchwil a sgriptiau.

Sïon Jobbins wedi cytuno siarad efo Rhiannon Richards (BBC) am drefni sgwrs gychwynnol.

Cyfnewid rhynwladol Jason yn cyflwyno syniad Dafydd Tudur am her ryngwladol efo Sweden yn y lle cyntaf i greu rhediad o erthyglau allweddol i Sweden yn Gymraeg, gyda Sweden yn gwneud yr un peth i ni. Pawb yn gweld hyn fel syniad a chyfle da. Awgrymwyd bod Dafydd yn trafod hyn yn y Caffi.


Unrhyw fater arall[edit]

Dim byd wedi codi

Cyfarfod nesaf[edit]

Oherwydd prinder amser, symudwyd y pwyntiau isod i’r cyfarfod nesaf:

  1. Datblygu prif dudalen y Wici Cymraeg (JE)
  2. Creu rhagor o brosiectau Wici ar themâu arbennig
  3. Her rhiant a phlentyn / pontio cenedlaethau (DT)

Jason.nlw (talk) 12:02, 28 March 2019 (UTC)[reply]


Dolenni defnyddiol[edit]