Translations talk:Fundraising 2012/Translation/Landing Page and Banner messages/5a/cy

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki

Sut ydym yn gwybod mai Wicipedia Cymraeg yw gwefan Gymraeg fwyaf y byd? Allwn ni nodi ffynhonell y ffaith hon fan hyn os gwelwch yn dda.

Mae'r faner hon yn cymysgu ffeithiau am Wicipedia Cymraeg ac am Wicipedia byd eang, sydd yn fy nrysu braidd. Ac rwyn ei gweld yn faner hir iawn. Lloffiwr (talk) 18:12, 23 September 2012 (UTC)[reply]

Henffych Lloffiwr! Cwestiwn 1: mae'r niferoedd sy'n ymweld a gwefan wikipedia yn hysbys: Gweler Wikistats. Mae nifer yr erthyglau a thudalennau hefyd yn hysbys 37,300 / 80,000+. Dwn i ddim am unrhyw ymchwil sy'n profi'r gosodiad, ond ers i ni ei gyhoeddi ddeg mis yn ôl, does neb wedi anghytuno! Mae gwefan y BBC yn anferthol, ond cyhoeddodd Rhodri Talfan Davies faint oedd yn darllen eu gwefan nhw: tua 90,000 clic y mis! Cwestiwn 2: Dw i wedi cwtogi gryn dipyn ar y Faner, gan obeithio'i bod yn llai cymhleth ei hystyr. Mae angen 'lleoleiddio' baneri WP, yn fy marn bach i. Be mae'r darllennydd ei eisiau ydy gwybodaeth am Wici cy, nid stwff WM Foundation, global, amhersonol. Efallai bod cyfieithiadau uniongyrchol, llythrennol yn dieithrio'r wefan o'r darllennydd! Dwn im. Llywelyn2000 (talk) 02:14, 25 September 2012 (UTC)[reply]
Nawr rwyn deall yn well. Roeddwn wedi meddwl mai 'dechrau tudalen newydd' oedd ystyr 'agor' tudalen! Faint o bobl eraill sy'n mynd i wneud yr un camgymeriad tybed? Allai ddim meddwl am ffordd well o'i roi 'ta beth. Faint o ddefnydd sy'n cael ei wneud ar dudalennau gwefan y Llyfrgell Genedlaethol neu Eiriadur yr Academi? Os nad maint y gwefannau sy'n cael ei frolio, ond yn hytrach pa mor brysur ydynt, yna byddai'n well arall-eirio rhywfaint - 'prysuraf' yn lle 'mwyaf', am wn i. Lloffiwr (talk) 13:40, 30 September 2012 (UTC)[reply]
Wedi i mi ofyn cwestiwn am ba mor bell y gallwn grwydro o'r testun gwreiddiol, cefais yr ateb: ddim ymhell. Ar yr un pryd fe gopiodd cydlynydd y gwaith cyfieithu yr un darn o neges 4a i fan hyn. Petai ni am newid y neges i fod yn rhywbeth mwy perthnasol i'r Gymraeg, yna byddai'n well i ni wneud cais ffurfiol i gael gwneud hynny, dybiwn i. Ar yr un pryd, rwyn dal i fod yn petruso dros y busnes yma o wneud honiadau na allwn eu profi. Wedi'r cyfan, petawn yn newid ein polisi ar erthyglau Wicipedia, i ganiatau i unrhywun ysgrifennu unrhywbeth ond i neb anghytuno fe fyddai na le 'ma! Felly dwi'n gysurus fy meddwl yn gadael i'r faner fod yn gyfieithiad o'r Saesneg, am eleni 'ta beth. Lloffiwr (talk) 13:59, 14 October 2012 (UTC)[reply]

Adolygu'r baneri[edit]

Rwyf wedi bod yn panso adolygu rhywfaint ar y baneri! A elli di adolygu'r baneri a chlicio'r botwm 'derbynier' ar y rhai sy'n plesio? Fe allaf i adolygu'r rhai y byddi di'n eu newid, maes o law. Dyma nhw Lloffiwr (talk) 13:25, 30 September 2012 (UTC)[reply]

Wedi'i wneud - hyd gorau fy ngallu! Llywelyn2000 (talk) 06:05, 1 October 2012 (UTC)[reply]