Wikimedia Community User Group Wales/Cofnodion Mawrth 2018

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki

Fersiwn Saesneg ->

Grwp Defnyddwyr Wicimedia Cymru, 27 Mawrth 2018[edit]

Lleoliad: Ystafell Addysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3BU Amser: 11:00-16:00

Yn bresennol:

Ymddiheuriadau:

Croeso[edit]

Croesawyd pawb oedd yn bresennol i gyfarfod cyntaf y Grwp Defnyddwyr newydd - yr endid Cymreig cyntaf i gael ei gydnabod gan Sefydliad Wikimedia - a chyhoeddwyd hefyd bod y Wicipedia Cymraeg wedi cyrraedd carreg filltir y 100,000 o erthyglau y diwrnod hwnnw, ac y byddai dathliad yn dilyn y cyfarfod.

Cefndir sefydlu'r Grwp Defnyddwyr[edit]

Cafwyd crynodeb o'r drafodaeth a'r proses sydd wedi arwain at sefydlu'r Grwp.

Amcanion y Grwp[edit]

Trafodwyd yr amcanion fel maen nhw wedi’u cofnodi ar dudalen Meta y Grwp ar hyn o bryd, a chynigiwyd sawl diwygiad. Byddwn yn anelu i sicrhau bod yr amcanion wedi’u cadarnhau erbyn y cyfarfod nesaf

Gweithgareddau perthnasol i'r Grwp[edit]

Cyfle i unrhyw un roi cyflwyniad 5 munud anffurfiol ar weithgaredd, prosiect neu syniad. Byddwn yn llym gyda chyfyngiad amser y cyflwyniadau er mwyn rhoi digon o amser i drafod!

  • Wici-Môn
  • Wici-Caerdydd
  • Wici-Iechyd
  • Astudiaeth Achos ar gyfer Chwareulyfr Effaith Europeana
  • Y potensial gall WiciData gynnig i wella A.I., cyfieithu peirianyddol, Rhyngrwyd y Pethau (IoT) Cymraeg - trafodaeth dan ofal GarethM
  • Mentrau Iaith Cymru (mae targedau wrthi'n cael eu gosod ar gyfer gweithgareddau Wicipedia Cymraeg) - diweddariad gan GarethM
  • Cynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018

Agweddau ymarferol[edit]

Penderfynwyd y canlynol:

  • Iaith: Cymraeg fydd cyfrwng iaith y Grwp, a bydd ein gwaith yn canolbwyntio yn bennaf ar weithgareddau a phrosiectau yn ymwneud â’r iaith Gymraeg.
  • Aelodaeth: Mae croeso i unrhyw un sy’n gwneud defnydd o lwyfannau Wici ac sydd eisiau cyfrannu at gyflawni amcanion y Grwp. Anfonir gwahoddiadau i gyfarfodydd trwy ebost at bawb sydd wedi bod i gyfarfodydd blaenorol neu sydd wedi anfon ymddiheuriadau. Bydd manylion y cyfarfodydd hefyd yn cael eu cyhoeddi yn y Caffi. Gall aelodau’r grwp hefyd gynnig enwau unigolion/cyrff i’w gwahodd i gyfarfodydd. Cytunwyd y byddai angen ffurfioli’r drefn ar gyfer gwneud penderfyniadau.
  • Cadeiryddiaeth: Bydd Dafydd Tudur yn parhau fel Cadeirydd y Grwp.
  • Pryd: Bydd y cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal yn ystod yr wythnos am y tro, er iddo gael ei gydnabod y byddai penwythnosau yn fwy cyfleus i rai nad ydynt yn ymwneud â gweithgareddau Wici yng nghyd-destun eu gwaith cyflogedig. Bydd y cyfarfod yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn fwy agored yn hyn o beth. Gan y byddai sawl un yn teithio o bell i gyfarfodydd, cytunwyd na fyddai’n bosibl cynnal y cyfarfodydd gyda’r nos.
  • Lleoliad: I’w gynnal dair gwaith y flwyddyn, yn y gogledd, canolbarth a’r de. Bydd un o’r cyfarfodydd yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Trafodwyd y posibilrwydd o gynnal derbyniad yn ogystal a chyfarfod eleni, o bosib yng ngofod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu un o’r Prifysgolion (gw. Gweithred). Bydd y nesaf yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd felly, a’r nesaf yn y gogledd.
  • Cyfathrebu: Bydd cyfarfodydd yn cael eu cadarnhau trwy ebost, ond y byddai Slack yn cael ei ddefnyddio i drafod a chydlynu gweithgareddau rhwng cyfarfodydd.
  • Logo: Edrychwyd ar enghreifftiau o logos Grwpiau Defnyddwyr eraill https://meta.wikimedia.org/wiki/Wikimedia_user_groups Roedd y syniad o ddefnyddio’r ddraig Gymreig yn cael ei ffafrio dros amlinelliad (daearyddol) o Gymru. Byddai angen i’r logo gael ei gymeradwyo gan Sefydliad Wikimedia.
  • Agenda: Trwy wahodd unigolion/cyrff penodol i’r cyfarfod, gellid adnabod pynciau neu agweddau penodol i roi sylw iddynt yn y cyfarfodydd. Yr agenda hefyd i gynnwys ymgyrchoedd Wikimedia ar lefel ryngwladol (e.e. Menywod mewn Coch, #1lib1ref) i adnabod a chydlynu cyfraniad o Gymru ac/neu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Unrhyw fater arall[edit]

  • #Wici365: Trafodwyd y syniad o wneud ‘addewid’ i greu erthygl y dydd am flwyddyn yn apelio i’r Grwp a chytunwyd i ddechrau defnyddio’r hashnod #Wici365 ar y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’r unigolion/erthyglau oedd yn cael eu creu fel rhan o’r ymgyrch hon.
  • Y Cymro: Gwahoddwyd y Grwp i gyfrannu deunydd am weithgareddau Wici i’r Cymro.

Cyfarfod nesaf[edit]

I’w gynnal yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Dolennau defnyddiol[edit]