Hysbyseb cynnal a chadw ar Wicifryngau

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki
This page is a translated version of the page Wikimedia maintenance notice and the translation is 89% complete.

Beth sy'n digwydd?

Mae Sefydliad Wicifryngau ar fin symud ei brif wasanaethau i ganolfan ddata newydd yn Virginia, UDA. Bwriad hyn yw gwella dulliau gwaith technegol holl wefannau Wicifryngau, a'u dibynadwyaeth.

Tra'n bod wrthi'n cynnal a chadw, hwyrach y cewch drafferth cysylltu â gwefannau Sefydliad Wicifryngau, gan gynnwys wikipedia.org.

Ceir rhagor o wybodaeth yn y cyhoeddiad llawn.

Camau i'w cymryd os y cewch drafferth

  • Arhoswch ychydig funudau; hwyrach bod y technegwyr eisoes yn gwybod bod problem ac wrthi'n ei datrys. Cyhyd a'ch bod yn gweld y faner cynnal a chadw, mae yna waith cynnal a chadw ar y gweill.
  • Ymunwch â'r sianel #wikimedia-tech ar Freenode:
  • Os y dowch ar draws rhyw broblem wedi i'r faner cynnal a chadw ddiflannu, byddwch gystal ag anfon adroddiad amdano ar IRC, ynteu ar dudalen sgwrs y dudalen hon, neu ar ein gwefan dilyn hynt bygiau (cyswllt uniongyrchol).
  • Os nad ydych yn gyfarwydd ag IRC, na'r wefan dilyn hynt bygiau, na meta-wici, gallwch ofyn cymorth eich cyd-wiciwyr ar dudalen sgwrs eich cymuned wici.

Diolch!