Wicidestun

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki
This page is a translated version of the page Wikisource and the translation is 50% complete.
Outdated translations are marked like this.

Mae Wicidestun yn un o brosiectau Wikimedia. Ei amcan yw datblygu llyfrgell o destunau agored a rhydd eu hawlfraint. Pan ddechreuodd yn 2003 "Prosiect Sourceberg" oedd enw'r prosiect. Erbyn 2005 fe'i rhannwyd yn nifer o ieithoedd ar wahân. Nawr mae Wicidestun yn cadw llyfrau, nofelau, traethodau, cerddi, dogfennau hanesyddol, llythyrau, areithiau a dogfennau eraill, cyn belled a'u bônt yn addas i'w trwyddedu ar y drwydded cynnwys agored CC-BY-SA.

Logo Gwreiddiol Wicidestun
  • Gallwch weld enw'r prosiect a'i slogan mewn llu o wahanol ieithoedd yn y siart amlieithog "Wicidestun – Y Llyfrgell Rydd".
  • Newidwyd logo Wicidestun o fod yn lun .jpg o fynydd iâ (fel y dangosir ar y dde) i lun .svg (fel y danosir uchod).

Rhestr y Prosiectau Wicidestun

Dyma restr yr isbarthau ieithyddol i Wicidestun. Gallwch weld rhestr o'r ieithoedd heb eu hisbarth eu hunain ar Wikisource:Languages; cânt eu cadw ar Wicidestun Amlieithog.

Wicidestun Alemaneg a Ffriseg Gogleddol

Gosodwyd Wicidestun Alemaneg mewn parth arbennig ar Wicipedia Alemaneg: Alemannischi Textsammlig (Wikisource) a'r un modd, gosodwyd prosiect Wicidestun yn y parth Text ar Wicipedia Ffriseg Gogleddol: Nordfriisk Bibleteek.

Trafodion hanesyddol

Gweler y dudalen sgwrs.

See also