Fundraising 2012/Translation/GorillaWarfare appeal

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki
This page is a translated version of the page Fundraising 2012/Translation/GorillaWarfare appeal and the translation is 100% complete.

  • Darllenwch:
    Apêl bersonol gan
    awdur 18,000 o olygiadau i Wicipedia

Appeal

Oddi wrth gyfrannydd i Wicipedia

Myfyriwr prifysgol dwi. Gall llyfrau ar gyfer un tymor gostio hyd at £300. Ar Wicipedia, dwi'n gallu cael gwybodaeth sydd werth miloedd o lyfrau, yn rhad ac am ddim.

Dyna pam nad ydw i'n darllen Wicipedia yn unig, ond dwi'n helpu ei greu. Mae'n bwysig iawn imi sicrhau fod yr adnodd hwn ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Gyda 470 miliwn o ddarllenwyr y mis, mae Wicipedia yn bwysig i lawer o bobl ledled y byd.

Dylai Wicipedia fod wedi mynd i'r gwellt amser maith yn ôl. Consensws sydd yn ei yrru, yn wahanol i unrhyw brosiect cymunedol arall. Does dim gweinyddu cyffredinol go iawn, neu fwrdd gweithredol sy'n cymeradwyo bob golygiad a phob polisi. Yn lle hynny, mae cymuned fawr o wirfoddolwyr yn gweithio gyda'i gilydd i greu'r ffynhonnell o wybodaeth hon, sy'n rhydd i'w defnyddio ac sydd heb hysbysebion.

Drwy weithio tuag at y diben hwnnw, mae ein cymuned o filiynau o olygyddion yn cydweithio i greu gwyddoniaduron mewn 283 o ieithoedd, gan gynnwys cyfanswm o dros 20 miliwn o erthyglau.

Rydym yn gwneud hyn gyda chyllideb fach iawn o'i gymharu â gwefannau poblogaidd eraill. Er mwyn i ni wneud ein gwaith, mae angen isadeiledd sefydlog arnom: gweinyddwyr, canolfannau data sy'n gallu trin llwyth enfawr, rhaglenwyr, a hyd yn oed cyfreithwyr i ddiogelu ein hannibyniaeth. Fe'i hariennir gan yr holl roddion gan ddarllenwyr Wicipedia. Efallai eich bod yn meddwl na fyddai'ch cyfraniad o ychydig o bunnoedd yn helpu digon, ond dyma'r hyn sy'n galluogi'r cyfan oll i fynd rhagddo.

Diolch o galon.