Meetup/Cardiff/4/cy

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki

Cymraeg · English

Wicigyfarfod Caerdydd Rhif 4[edit]

Dydd Sul 22 Chwefror 2015 — 12:00 ymlaen[edit]

Lleoliad: The Central Bar (Wetherspoons), 39 Plas Windsor CF10 3BW

Ceir WiFi yn y lleoliad #cdfwiki

Mae wicigyfarfod yn gyfle i ddefnyddwyr prosiectau Wikimedia gwrdd â'i gilydd a...

  • Sgwrsio am Wicipedia, Wikimedia, cynnwys agored neu unrhyw bwnc arall a aiff â'n pryd
  • Bwyta ac yfed (ond nid yw diodydd alcoholig na bwyd yn orfodol!)

Digwyddiadau cymdeithasol anffurfiol ydy wicigyfarfodydd yn bennaf. Gallwch ddisgwyl cwrdd â Wicipedwyr brwd iawn, ond estynir gwahoddiad agored i unrhyw un â diddordeb mewn darganfod mwy am Wicipedia a'i chwaer-brosiectau (yn Gymraeg neu yn Saesneg) yn ogystal â'r prosiectau yn ymwneud â Wikimedia sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae croeso i chi ddod a chael sgwrs am bopeth wicïaidd dros ddiod o'ch dewis.

Darperir WiFi yn y dafarn. Unwaith eto, dydy diodydd alcoholig ddim yn orfodol!

Dod o hyd i ni[edit]

Mae'r Central Bar yn dafarn yng nghanol y brifddinas, ger Heol y Frenhines ac yn agos at orsaf Heol y Frenhines a arosfannau bysiau Plas Dumfries a Ffordd Churchill. Mae ein bwrdd lawr stâr – cadwch eich llygaid allan am fwrdd â baner Wicipedia!

Yn dod i'r wicigyfarfod[edit]

Cofrestrwch isod os gwelwch yn dda os ydych yn bwriadu dod. Os hoffech gael eich atgoffa yn nes at yr amser, gadewch nodyn ar ôl eich llofnod.

Ymddiheuriadau[edit]

Oes cyfarfodydd tebyg yn cael eu cynal yn y Fro Gymraeg, i gyfranwyr Cymraeg (heblaw'r blydi 'steddfod)? AlwynapHuw (talk) 06:22, 15 February 2015 (UTC) 06:20, 15 February 2015 (UTC)[reply]

Nodiadau a dolenni o'r dydd[edit]